| |
Fel y rhan fwyaf o blant eraill ar ddiwedd y bedwaredd
ganrif ar bymtheg, gadawodd Henry Jones yr ysgol yn 12 oed a mynd
i weithio. Ond yn wahanol i eraill, anogwyd Henry i astudio. Yn
gweithio gydai dad, crydd y pentref, yn ystod y dydd ac, yn
gweithio wrth fy llyfrau trwy oriau mân y bore a hyd
nes deuair wawr, enillodd ysgoloriaeth i hyfforddi fel
athro. Gan barhau ei astudiaethau, yn y diwedd daeth yn Athro Athroniaeth
Foesol ym Mhrifysgol Glasgow.
Roedd Henryn athronydd ac yn athro disglair,
y dylanwadwyd ar ei waith yn fawr gan weithdyr crydd a bywyd
yn ei bentref genedigol. Nid anghofiodd ei dras werinol fyth a gweithiodd
yn galed i wellar system addysg yng Nghymru.
|
 |
Yn 1912 fei hurddwyd yn farchog ac yn 1922 fei
gwnaed yn Gydymaith Anrhydedd. Derbyniodd fedal Cymdeithas y Cymmrodorion
am ei wasanaeth i Gymru hefyd.
Yn dilyn marwolaeth Henry yn 1922 sefydlwyd cronfa
goffa. Llywydd y gronfa oedd y Prif Weinidog Ramsey MacDonald a
David Lloyd George oedd yr is-lywydd.
Yn ddiweddarach prynodd y gronfa gartref ei blentyndod,
Y Cwm, ac fei agorwyd fel amgueddfa gan David Lloyd George
yn 1934.
Rhedir yr amgueddfa heddiw gan Ymddiriedolaeth Goffa
Syr Henry Jones ac maen adrodd hanes Henry a hanes ei bentref
genedigol yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
|
|