Y Dderbynfa
Adroddir stori bywyd Henry Jones yma. Ar wahân i sawl gwrthrych gwreiddiol a ddefnyddid gan y teulu dros ganrif yn ôl, fe welwch chi’r wisg a wisgodd Henry pan gafodd ei urddo’n farchog yn 1912 a chasgliad bychan o’r llyfrau a oedd bob amser mor arbennig iddo.

click here to see a bigger image

 


Gweithdy ei dad

Mae’r ystafell hon, ble treuliodd Henry lawer awr ddiddan yn dysgu bod yn grydd, yn darlunio’r olygfa gryn dipyn dros ganrif yn ôl gyda modelau o faintioli llawn o Henry a’i dad. Y gwely yng nghefn yr ystafell yw ble cysgai Henry tra’n astudio’n ddi-baid i fynd i’r coleg. Mae’r celfi a dwy o feinciau’r gweithwyr yn rhai gwreiddiol.

Y gegin
Yma, ‘byddai saith o bobl yn cael eu prydau pob dydd yn y gegin fach ddeg troedfedd, ble oedd y bwyd i gyd yn cael ei goginio a’r teulu’n byw. Nid oedd dim lle i bawb ohonom eistedd wrth ein bwrdd; nid oedd na’r bwrdd na’r ystafell yn ddigon mawr. Beth wedyn? Mae’r ateb yn syml; byddwn yn cael ein prydau fesul criw.’ Old Memories, Hunangofiant gan Syr Henry Jones

Mae’r gegin heddiw’n cynnwys llawer o wrthrychau o’r cyfnod, yn cynnwys cloc a wnaed yn tua 1800 gan Moses Evans y clociwr lleol.

Yr ystafell wely
Yma fe welwch chi gyn lleied o le a oedd ar gael i chwech o bobl gysgu. Dim ond dau wely oedd, ac felly byddai Henry a’i frawd, William, yn cysgu y drws nesaf yn aml.

Yr ystafell arddangos
Yn yr ystafell hon, ystafell wely taid a nain Henry yn wreiddiol, mae gwrthrychau sy’n darlunio bywyd yn ystod plentyndod Henry yn Llangernyw: cymuned wledig Gymreig nodweddiadol yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 


Yr ardd

Mae hon wedi’i hadfer i ddangos y mathau o blanhigion, perlysiau a choed ffrwythau a oedd yn gyffredin mewn gerddi bwthyn yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.